×
Rydym yn gwerthfawrogi y gallai ein rhoddwyr fyw bywydau prysur, a'r amser rydych chi'n ei gymryd o'ch diwrnod i roi gwaed. Ond mae colli apwyntiadau yn rhoi straen ar ein gwasanaeth, a gallai olygu ein bod ni’n casglu llai o waed mewn clinig nag oeddem wedi’i fwriadu. Dewis cael eich atgoffa o’ch apwyntiad i roi gwaed drwy SMS ac e-bost ydy’r ffordd fwyaf cost effeithiol i ni i atgoffa ein rhoddwyr o’u hapwyntiadau wrth i ni nesáu at y clinigau, ac mae hyn yn dyblu ein siawns o gysylltu os oes problem. Nawr, mae negeseuon atgoffa drwy SMS ac e-bost yn cynnwys yr opsiwn i ganslo os yw eich amgylchiadau wedi newid.
O ran rhoddwyr sydd heb fynediad rheolaidd at e-bost neu SMS, rydym yn hapus i geisio cysylltu â chi dros y ffôn ychydig ddyddiau cyn yr apwyntiad. Yn anffodus, oherwydd effaith colli apwyntiadau ar ein gallu i gyflenwi gwaed i'n hysbytai, rhaid inni fynnu eich bod chi’n dewis cael eich atgoffa drwy un ffordd o leiaf wrth fwcio apwyntiad.